Skip to main content
Author: Mr M. Morgan

Llongyfarchiadau Ysgol Bae Baglan!

Mi rydym yn ysgol hynod o falch heddiw! Mi roddodd Amahrae, Izzie, Harri a Callan o Flwyddyn 7 cyflwyniad Cymraeg arbennig o dda i staff Llywodraeth Cymru a gwestaion ym mhabell Llywodraeth Cymru yn Eisteddfod Yr Urdd Parc Margam y bore ‘ma. Ar ol y cyflwyniad roedd y grwp yn falch iawn i dderbyn y Wobr Aur Siarter Iaith o ran yr ysgol. Disgyblion anhygoel a diwrnod bythgofiadwy yn hanes yr ysgol.

We are an exceptionally proud school today! Our year 7 pupils, Callan, Izzie, Harri and Amahrae gave a fabulous Welsh language presentation to Welsh Government staff and invited guests in the Welsh Government Tent at the Urdd Eisteddfod Dur a Mor in Margam Park today. After their presentation the group were very proud to receive the Siarter Iaith Gold Award on behalf of the school. Amazing pupils and a very memorable day in the history of our school.

Cystadleuaeth Gwyddoniaeth Blwyddyn 7 Science Competition

Diolch yn fawr i chi am bleidleisio yn ein Cystadleuaeth Gwyddoniaeth Blwyddyn 7, dyma’r canlyniadau:

Diolch yn fawr to you for voting in our Year 7 Science Competition, here are the results:

1af/1st: Anna 7AJH
2il/2nd: Elian 7SLS
3ydd/3rd: Livie 7MLA, Toby 7AJH and Lilly 7AJH

Diolch yn fawr i’r Adran Wyddoniaeth am ei threfnu/Diolch yn fawr to the Science Department for organising the competition.

Da iawn blwyddyn 7!!

Llongyfarchiadau enfawr i’n timau blwyddyn 7 a oedd yn cystadlu yn y Gystadleuaeth Futurescape yn Parc Y Strade, Llanelli heddiw. Roedden nhw’n cystadlu yn erbyn ysgolion o Sir Benfro, Abertawe, Castell Nedd Port Talbot a Sir Gaerfyrddin. Enillodd ein Tim Heat clod am eu cyflwyniad arddechog ac enillodd ein Tim Baglan Badgers y gystadleuaeth cyfan.

Huge congratulations to our year 7 teams who were competing in the Futurescape Competition at Stradey Park, Llanelli today. They were competing against schools from Pembrokeshire, Swansea, Neath Port Talbot and Carmarthen. Our Heat Team earned a commendation for their excellent presentation and our Baglan Badgers Team won the overall competition.

Enillwyr Cwpan Afan Nedd Cup Winners!

Llongyfarchiadau enfawr i’n Tîm Pel-droed Blwyddyn 8 am ennill y Cwpan Pêl-droed Blwyddyn 8 Afan Nedd heddiw. Chwaraeodd y tîm yn arbennig o dda mewn buddugoliaeth 3-1 yn erbyn tîm cryf o Ysgol Cwmtawe.

Huge congratulations to our Year 8 Football Team on winning the Neath Port Talbot County Football Cup today. The team played fantastically well in a 3-1 victory against a strong Ysgol Cwmtawe team.

Llwyddiant Mathemateg/Maths Success

Ar 1 Mai, cymerodd grŵp o ddisgyblion o 7AHA a 7AJH ran yn Her Mathemateg Iau Ymddiriedolaeth Mathemateg y DU.  Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran.  Clod arbennig i George Cooper, Chelsea Woodham ac Oscar Stiff sydd wedi ennill gwobrau efydd.  George hefyd a gafodd y wobr orau yn yr ysgol.

On 1st May, a group of pupils from 7AHA and 7AJH took part in the UK Maths Trust Junior Maths Challenge.  Congratulations to all who took part.  Special mention for George Cooper, Chelsea Woodham and Oscar Stiff who have achieved bronze awards.  George was also awarded best in school.

Ffilmio ITV Cymru yn yr ysgol/ITV Wales filming in school

Roedd yn hyfryd i groesawu camerau ITV Cymru i’r ysgol heddiw i ffilmio ein disgyblion a staff am ein gwaith ysgol gyfan wrth hyrwyddo’r Gymraeg. Bydd y fflmio (yn Saesneg) yn ymddangos ar y rhaglen Sharp End nos fory am 10:45pm a hefyd ar y newyddion ITV Cymru am 6pm ar nos Fercher.

It was lovely to welcome the ITV Cymru cameras to the school today to film our pupils and staff on the subject of our whole school work in promoting the Welsh language. The broadcast (in English) will appear on the Sharp End program tomorrow night at 10:45pm and also on the ITV Wales news at 6pm on Wednesday night.

VE Day 80th Anniversary

Yn ogystal a’n trefniadau yr ysgol am gofnodi VE Day heddiw, mi gaofdd grwp o’n disgyblion y cyfle ardderchog i ymuno a’r dathliadau yng Nghanolfan Siopa Aberafan. Mi roedd ein disgyblion yn fendigedig wrth ddangos parch i’n cyn-filwyr, mi wnaethont cardiau diolch personol iddynt. Profiad gwerthfawr iawn a mwynheuont y cacennau hefyd wrth gwrs.

In addition to our in school arrangements for marking VE Day today, a group of our pupils enjoyed a fabulous opportunity to join the celebrations at Aberafan Shopping Centre. We are very proud of their mature attitudes and understanding of the event. They showed excellent respect to our veterans and had made personal thank you cards to present to a veteran of their choice. A very valuable experience and they really enjoyed the cakes too of course.

Da iawn Harrison!

Mae ein disgybl blwyddyn 9 Harrison, wedi bod yn gweithio’n galed i greu llyfr stori lliwio dwyieithiog, yn seiliedig ar y cymeriadau mae e wedi’i greu. Mae Harrison yn dwlu ar arlunio, a chafodd e a’i dad syniad i ddod a’i gymeriadau e i fyw gan greu llyfr stori lliwio yn cynnwys ei luniau. Beth bynnag, nid hwn fydd yr unig llyfr. Dyma gyflwyniad i’r cymeriadau, a’r syniad ydy, i gael cyfres o lyfrau stori lliwio dwyieithog i bob cymeriad. Dydy dad na Harrison ddim yn siarad Cymraeg, beth bynnag, maen nhw’n deall y pywsigwrydd o’r iaith Gymraeg ac eisiau creu’r llyfr yma yn ddwyieithog i gefnogi addysg drwy hwyl. Mae’r llyfr hyfryd yma wedi cael ei gynllunio a’i golygu gan Harrison, gyda phob tudalen wedi cael ei harwyddo bant ganddo e cyn ei gyhoeddi.

Da iawn Harrison!

I wybod mwy am y llyfy a’r cymeriadau diddorol yma, ewch i’r wefan yma www.chompersworld.co.uk

Chomper’s Wonderful World. Colouring book.

Our year 9 pupil Harrison, has been working hard on creating a bilingual colouring story book, based on the characters that he has created. Harrison loves to draw, and him and his dad had an idea to bring Harrison’s characters to life and create a colouring book including all his illustrations. However, this won’t be the only book. This is an introduction to the characters, and the idea is, to have a series of bilingual colouring story books for each character. Neither dad nor Harrison are Welsh speakers, however, they understand the importance of the Welsh language and wanted to create this book bilingually to encourage education through fun. This wonderful book has been planned and edited by Harrison, with every page signed off by him before printing.

Well done, Harrison!

To know more about the book and the interesting characters, please visit their website on www.chompersworld.co.uk


Gŵyl Rygbi Blwyddyn 8/9 Ysgol Bae Baglan Year 8/9 Rugby Festival

 Roedd ein tîm rygbi merched blwyddyn 8/9 yn rhagorol wrth ennill Gŵyl Rygbi Bae Baglan heddiw. Roedd y digwyddiad ar gyfer ysgolion ar draws Castell-nedd, Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr yn wir yn ŵyl rygbi. Cipiodd ein merched y tlws heb eu trechu yn y gystadleuaeth. Diolch yn fawr i,Ysgol Sant Joseff, Ysgol Ystalyfera Bro Dur, Ysgol Cwm Brombil, Ysgol Cynffig, Coleg Cymuedol y Dderwen, Ysgol Brynteg, Ysgol Pencoed ac Ysgol Llangatwg am ymweld a ni. Diolch yn fawr iawn hefyd i’n Swyddog Datblygu Rygbi Mr Aaron Bramwell am roi profiad gwych arall at ei gilydd i’n disgyblion.

Our year 8/9 girls rugby team were outstanding in winning the Baglan Bay Rugby Festival today. The event for schools across Neath, Port Talbot and Bridgend was played in great spirit throughout. Our girls took the trophy undefeated in the competition. Many thanks to Ysgol St Josephs, Ysgol Ystalyfera Bro Dur, Ysgol Cwm Brombil, Ysgol Cynffig, Coleg Cymuedol y Dderwen, Ysgol Brynteg, Ysgol Pencoed ac Ysgol Llangatwg for visiting us. A big thank you also to our Rugby Development Officer Mr Aaron Bramwell for putting together yet another great experience for our pupils.

Gŵyl Rygbi Blwyddyn 7 Ysgol Bae Baglan Year 7 Rugby Festival

Roedd ein tîm rygbi merched blwyddyn 7 yn wych wrth ennill Gŵyl Rygbi Bae Baglan heddiw. Roedd y digwyddiad ar gyfer ysgolion ar draws Castell-nedd, Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr yn wir yn ŵyl rygbi. Cipiodd ein merched y tlws heb eu trechu, gyda buddugoliaethau dros Ysgol Ystalyfera Bro Dur, Ysgol Cynffig, Ysgol Pencoed ac Ysgol Brynteg. Diolch yn fawr iawn i’n Swyddog Datblygu Rygbi Mr Aaron Bramwell am roi profiad gwych arall at ei gilydd i’n disgyblion.

Our year 7 girls rugby team were fantastic in winning the Baglan Bay Rugby Festival today. The event for schools across Neath, Port Talbot and Bridgend was truly a rugby festival. Our girls took the trophy undefeated, with victories over Ysgol Ystalyfera Bro Dur, Ysgol Cynffig, Ysgol Pencoed and Ysgol Brynteg. A big thank you to our Rugby Development Officer Mr Aaron Bramwell for putting together yet another great experience for our pupils.

Statws Gwobr Aur Ysgol Gyfeillgar Lluoedd Arfog Cymru/Armed Forces Friendly School Gold Award Status

Mae’n bleser gennym rannu, oherwydd gwaith anhygoel ein Pencampwyr Plant y Lluoedd Arfog, Mrs Abegayle Challenger a Jenny Thomas, ein bod heddiw wedi ennill statws Gwobr Aur Ysgol Gyfeillgar y Lluoedd Arfog, yr ysgol 3-16 gyntaf yng Nghymru i dderbyn y gydnabyddiaeth genedlaethol hon.

We are delighted to share that due to the amazing work of our Service Children Champions, Mrs Abegayle Challenger and Jenny Thomas, we have today been awarded the status as a Gold Award Armed Forces Friendly School, the first 3-16 school in Wales to receive this national recognition.

Clwb Celf/Art Club

Daeth 16 o artistiaid brwdfrydig i’n clwb celf ar ôl ysgol cyntaf heddiw. Fe wnaethon nhw archwilio cyfansoddi trwy ddefnyddio dim ond 3 llinell yn arddull yr artist Etel Adnan, roedd hi’n adnabyddus am ei thirweddau syfrdanol, rwy’n siŵr y bydd y rhain yn datblygu i fod yn ganlyniadau gwych yr wythnos nesaf.

16 enthusiastic artists attended our first after school art club today. They explored composition by using just 3 lines in the style of the artist Etel Adnan, she was known for her stunning landscapes, I’m sure these will develop into fantastic outcomes next week.