Skip to main content

Siarter Iaith Gwobr Aur/Gold Award

Rydym yn hynod o falch i gyhoeddi ein bod ni wedi derbyn y Siarter Iaith Gwobr Aur heddiw! Ysgol Bae Baglan yw’r ysgol gyntaf yng Nghastell Nedd Port Talbot i dderbyn y wobr hon. Llongyfarchiadau gwresog i’n disgyblion, staff, llywodraethwyr a rhieni am eu gwaith di-flino wrth hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’n hanes, treftadaeth a diwylliant unigryw.

We are extremely proud to announce that we received the Siarter Iaith Gold Award today! Ysgol Bae Baglan is the first school in Neath Port Talbot to receive this award. Huge congratulations to our pupils, staff, governors and parents for their tireless work in promoting Welsh language opportunities for all along with our unique history, heritage and culture.

Rowndiau Terfynol Esports Ysgolion Cymru/Welsh Schools Esports Finals

Llongyfarchiadai mawr i’n Tim Esports o Flwyddyn 8 a daeth yn ail yn y Rowndiau Terfynol Esports Ysgolion Cymru yn Stadiwm Y Prinicipality heddiw. Diolch yn fawr i Mr Watkins am ei holl waith gyda’r grwp.

Huge congratulations to our Year 8 Esports Team on coming runners up in the Welsh Schools Esports Finals at the Principality Stadium today. A massive thanks to Mr Watkins for all of his work and support to the team.

Prosiect Futurescape 7AHA Futurescape Project

Mwynheuodd Dosbarth 7AHA eu taith i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant heddiw yn fawr. Aeth y grŵp i gael mwy o fewnwelediad a datblygu eu syniadau cysyniad tŷ cynaliadwy ymhellach. Edrychwn ymlaen yn fawr at weld y disgyblion yn cyflwyno eu syniadau yn y rownd derfynol ym Mharc y Strade, Llanelli ar 21 Mai.

Class 7AHA really enjoyed their trip to University of Wales Trinity Saint David today. The group went to gain more insight and further develop their sustainable house concept ideas. We very much look forward to seeing the pupils presenting their ideas at the finals event at Stradey Park, Llanelli on 21st May.

Tarian Bae Baglan Cystadleuaeth Rygbi/Bae Baglan Shield Rugby Competition

Gwaith gwych gan flwyddyn 6 yng nghlwstwr Ysgol Bae Baglan heddiw wrth gystadlu mewn cystadleuaeth rygbi 7 bob ochr fel rhan o’r Tarian Bae Baglan 2025. Llongyfarchiadau i bawb am gystadlu ac yn enwedig i Ysgol Bae Baglan a oedd yn 2il ac i Ysgol Tywyn am ennill y gystadleuaeth!

Great work by year 6 in Ysgol Bae Baglan School cluster today competing in a rugby 7s competition as part of the Bae Baglan Shield 2025. Congratulations to everyone for competing and especially to Ysgol Bae Baglan who came runners up and to Ysgol Tywyn on winning the competition!

Tarian Bae Baglan Cystadleuaeth Hoci/Bae Baglan Shield Hockey Competition

Gwaith gwych gan flwyddyn 6 yng nghlwstwr Ysgol Bae Baglan heddiw wrth gystadlu mewn cystadleuaeth hoci fel rhan o’r Tarian Bae Baglan 2025. Llongyfarchiadau i bawb am gystadlu ac yn enwedig i Ysgol Bae Baglan a oedd yn 2il ac i Ysgol Tywyn am ennill y gystadleuaeth!

Great work by year 6 in Ysgol Bae Baglan School cluster today competing in a hockey competition as part of the Bae Baglan Shield 2025. Congratulations to everyone for competing and especially to Ysgol Bae Baglan who came runners up and to Ysgol Tywyn on winning the competition!

Cystadleuaeth Pel-rwyd Blwyddyn 7 Afan Nedd Tawe Year 7 Netball Competition

Llongyfarchiadau i’n Tim Pel-rwyd Blwyddyn am eu perfformiad ardderchog yng Nghystadleuaeth Pel-rwyd Blwyddyn 7 Afan Nedd Tawe hedddiw. Roedd y merched yn rhagorol a diolch yn fawr i Mrs Harrison. Congratulations to our Year 7 Netball Team for their excellent performance in the Year 7 Afan Nedd Tawe Netball Competition today. The girls were outstanding and a big thank you to Mrs Harrison.

Grwp/Group:

Ysgol Bae Baglan 11 Ysgol Llangatwg 0

Ysgol Bae Baglan 9 Ysgol Tregwyr 0

Ysgol Bae Baglan 7 Ysgol St Joseph’s 1

Rownd yr Wyth Olaf/Quarter Final:

Ysgol Bae Baglan 9 Ysgol Dwr Y Felin 1

Rownd Cyn Derfynol/Semi Final:

Ysgol Bae Baglan 3 Ysgol Bishopston 6

Llongyfarchiadau i Ysgol Bishopston a aeth ymlaen i ennill y gystadleuaeth heddiw/Congratulations to Ysgol Bishopston who went on to win today’s competition.

Prosiect Cymbrogi Blwyddyn 8

Diwrnod gwych heddiw gan Flwyddyn 8 oedd yn cyflwyno eu prosiectau Cymbrogi, yn edrych ar sut i ddatblygu Ysgol Gynradd Gymraeg Rhosafan mewn modd cynaliadwy, ecolegol.  Daeth cynrychiolwyr o Morgan Sindall, Coetir Cymru, Cymbrogi, Tata Steel, Llywodraethwyr ein hysgol ac aelodau’r Cyngor i gyd i’r ysgol i farnu gwaith y disgyblion yn y neuadd.  Roedd disgyblion Blwyddyn 8 wedi cyflwyno a thrafod eu syniadau ac roeddent yn llysgenhadon gwych i Ysgol Bae Baglan. Da iawn bawb!

A brilliant day today from Year 8 who were presenting their Cymbrogi projects, looking at how to develop Rhosafan Primary School in a sustainable, ecological way.  We had representatives from Morgan Sindall, Woodland Wales, Cymbrogi, Tata Steel, our school Governors and Council members all come to the school to judge the pupils work in the hall. Year 8 pupils presented and discussed their ideas and were fantastic ambassadors for Ysgol Bae Baglan. Da iawn bawbl!

Gŵyl Rygbi Bae Baglan Rugby Festival

Hyfryd iawn oedd croesawu timau rygbi blwyddyn 7 oddi wrth Ysgol Bro Dur, Ysgol Cwm Brombil ac Ysgol Severn Vale i’r ysgol am ein Gŵyl Rygbi heddiw. Roedd y tywydd yn wych ac roedd y rygbi o safon uchel – da iawn i bawb syd wedi chwarae! Diolch yn fawr i Mr Davies a Mr Bramwell am ei drefnu.

It was great to welcome the year 7 rugby teams from Ysgol Bro Dur, Ysgol Cwm Brombil and Ysgol Severn Vale to the school for our Rugby Festival today. The weather was great and the rugby was of a high standard – well done to everyone who played! Diolch yn fawr i Mr Davies and Mr Bramwell for organising it.

Taith Pel-rwyd Blwyddyn 11 Swindon Netball Tour

Cafodd ein tîm Blwyddyn 11 daith pêl-rwyd hynod lwyddiannus ar ôl eu cymedroli ddydd Iau. Teithiom i Swindon ar gyfer twrnamaint PGL Ysgolion. Chwaraeon nhw 5 gêm ddydd Sadwrn gan ennill 4 gêm yn argyhoeddiadol a cholli un. Chwaraeon nhw 2 gêm fore Sul gan ennill y ddwy gêm a aeth â nhw drwodd i’r rownd gynderfynol.  Chwaraeon nhw’n arbennig o dda yn y rownd gyn derfynol gan ddod trwy 6-3 ar ôl gêm gyfartal 2-2 ar yr hanner. Roeddent yn eithriadol yn y rownd derfynol yn erbyn ysgol gref iawn o Loegr, The Blandford School. Buont yn brwydro’n galed gan orffen yn ail. Roedd y merched yn glod i’r ysgol ac roedd ymddygiad yn berffaith. Breuddwyd i fynd â nhw i ffwrdd a chynrychioli’r ysgol am y tro olaf.

Our Year 11 team had an incredibly successful netball tour after their moderation on Thursday. We travelled to Swindon for the Schools PGL tournament. They played 5 games on Saturday winning 4 games convincingly and losing one. They played 2 games on Sunday morning winning both games which took them through to the semi finals.  They played amazingly well in the semi final coming through 6-3 after drawing 2-2 at half time. They were exceptional in the final against a very strong school from England, The Blandford School. They battled hard finishing runners up. The girls were a credit to the school and behaviour was impeccable. A dream to take away and represent the school for the final time.

Eisteddfod Sir Gorllewin Morgannwg/West Glamorgan County Eisteddfod

Dyma ein Grwp Eisteddfod rhagorol yn dilyn eu llwyddiant bendigedig yn Eisteddfod Sir Gorllewin Morgannwg dydd Gwener diwethaf. Mi rydym yn falch iawn ohonynt! Ymlaen i Barc Margam!

Here is our outstanding Eisteddfod Group following their brilliant success at the West Glamorgan County Eisteddfod last Friday. We are very proud of their fabulous work and amazing attitudes to learning Welsh. Onto Margam Park for the finals.

Mis y Plentyn Milwrol/Month of the Military Child

Cafodd ein plant gwasanaeth uwchradd gyfle i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Mis y Plentyn Milwrol Ysgol Bae Baglan. Gofynnwyd i’r disgyblion gynhyrchu darn o waith celf sy’n dangos beth mae’n ei olygu iddyn nhw i fod yn blentyn milwrol. Cynhyrchodd y disgyblion waith gwych. 1af: Charlie Price, 2il: Logan Locke, 3ydd: Travis Gwynne-Thomas, 4ydd: Charlie Morris a Ryan Williams. Llongyfarchiadau!

Our secondary school service children had the opportunity to participate in Ysgol Bae Baglan’s Month of the Military child competition. The pupils were asked to produce a piece of art work that shows what it means to them to be a military child. The pupils produced fantastic work. 1st place: Charlie Price, 2nd place: Logan Locke, 3rd place: Travis Gwynne-Thomas, 4th place: Charlie Morris and Ryan Williams. Congratulations!