Llongyfarchiadau Ysgol Gynradd Tywyn – Pencampwyr Tarian Bae Baglan 2025!!
Congratulations Tywyn Primary School – Bae Baglan Shield Champions 2025!!
Llongyfarchiadau Ysgol Gynradd Tywyn – Pencampwyr Tarian Bae Baglan 2025!!
Congratulations Tywyn Primary School – Bae Baglan Shield Champions 2025!!
Gwaith gwych gan flwyddyn 6 yng nghlwstwr Ysgol Bae Baglan heddiw wrth gystadlu mewn cystadleuaeth rygbi 7 bob ochr fel rhan o’r Tarian Bae Baglan 2025. Llongyfarchiadau i bawb am gystadlu ac yn enwedig i Ysgol Bae Baglan a oedd yn 2il ac i Ysgol Tywyn am ennill y gystadleuaeth!
Great work by year 6 in Ysgol Bae Baglan School cluster today competing in a rugby 7s competition as part of the Bae Baglan Shield 2025. Congratulations to everyone for competing and especially to Ysgol Bae Baglan who came runners up and to Ysgol Tywyn on winning the competition!
Gwaith gwych gan flwyddyn 6 yng nghlwstwr Ysgol Bae Baglan heddiw wrth gystadlu mewn cystadleuaeth hoci fel rhan o’r Tarian Bae Baglan 2025. Llongyfarchiadau i bawb am gystadlu ac yn enwedig i Ysgol Bae Baglan a oedd yn 2il ac i Ysgol Tywyn am ennill y gystadleuaeth!
Great work by year 6 in Ysgol Bae Baglan School cluster today competing in a hockey competition as part of the Bae Baglan Shield 2025. Congratulations to everyone for competing and especially to Ysgol Bae Baglan who came runners up and to Ysgol Tywyn on winning the competition!
Llongyfarchaidau i’n enillwyr Cystadleuaeth Celf & Chrefft Mis y Plentyn Milwrol o’r cyfnod cynradd. Gwaith rhagorol plantos a joiwch y siocled!
Huge congratulations to our primary phase winners in the Month of the Military Child Arts & Crafts Competition at Ysgol Bae Baglan.
Diolch yn fawr i Mr Thomas Mathemateg a Mr Morgan Pennaeth Yr Ysgol Ganol am ddewis caneuon i ni yr wythnos hon. Coffi du gan Gwibdaith Hen Frân a Fel Hyn Da Ni Fod gan Bwncath. Diolch yn fawr to Mr Thomas Maths and Mr Morgan Head of Middle School for their song choices this week.
Llongyfarchiadau i’n Tim Pel-rwyd Blwyddyn am eu perfformiad ardderchog yng Nghystadleuaeth Pel-rwyd Blwyddyn 7 Afan Nedd Tawe hedddiw. Roedd y merched yn rhagorol a diolch yn fawr i Mrs Harrison. Congratulations to our Year 7 Netball Team for their excellent performance in the Year 7 Afan Nedd Tawe Netball Competition today. The girls were outstanding and a big thank you to Mrs Harrison.
Grwp/Group:
Ysgol Bae Baglan 11 Ysgol Llangatwg 0
Ysgol Bae Baglan 9 Ysgol Tregwyr 0
Ysgol Bae Baglan 7 Ysgol St Joseph’s 1
Rownd yr Wyth Olaf/Quarter Final:
Ysgol Bae Baglan 9 Ysgol Dwr Y Felin 1
Rownd Cyn Derfynol/Semi Final:
Ysgol Bae Baglan 3 Ysgol Bishopston 6
Llongyfarchiadau i Ysgol Bishopston a aeth ymlaen i ennill y gystadleuaeth heddiw/Congratulations to Ysgol Bishopston who went on to win today’s competition.
Diwrnod gwych heddiw gan Flwyddyn 8 oedd yn cyflwyno eu prosiectau Cymbrogi, yn edrych ar sut i ddatblygu Ysgol Gynradd Gymraeg Rhosafan mewn modd cynaliadwy, ecolegol. Daeth cynrychiolwyr o Morgan Sindall, Coetir Cymru, Cymbrogi, Tata Steel, Llywodraethwyr ein hysgol ac aelodau’r Cyngor i gyd i’r ysgol i farnu gwaith y disgyblion yn y neuadd. Roedd disgyblion Blwyddyn 8 wedi cyflwyno a thrafod eu syniadau ac roeddent yn llysgenhadon gwych i Ysgol Bae Baglan. Da iawn bawb!
A brilliant day today from Year 8 who were presenting their Cymbrogi projects, looking at how to develop Rhosafan Primary School in a sustainable, ecological way. We had representatives from Morgan Sindall, Woodland Wales, Cymbrogi, Tata Steel, our school Governors and Council members all come to the school to judge the pupils work in the hall. Year 8 pupils presented and discussed their ideas and were fantastic ambassadors for Ysgol Bae Baglan. Da iawn bawbl!
Hyfryd iawn oedd croesawu timau rygbi blwyddyn 7 oddi wrth Ysgol Bro Dur, Ysgol Cwm Brombil ac Ysgol Severn Vale i’r ysgol am ein Gŵyl Rygbi heddiw. Roedd y tywydd yn wych ac roedd y rygbi o safon uchel – da iawn i bawb syd wedi chwarae! Diolch yn fawr i Mr Davies a Mr Bramwell am ei drefnu.
It was great to welcome the year 7 rugby teams from Ysgol Bro Dur, Ysgol Cwm Brombil and Ysgol Severn Vale to the school for our Rugby Festival today. The weather was great and the rugby was of a high standard – well done to everyone who played! Diolch yn fawr i Mr Davies and Mr Bramwell for organising it.
Cafodd ein tîm Blwyddyn 11 daith pêl-rwyd hynod lwyddiannus ar ôl eu cymedroli ddydd Iau. Teithiom i Swindon ar gyfer twrnamaint PGL Ysgolion. Chwaraeon nhw 5 gêm ddydd Sadwrn gan ennill 4 gêm yn argyhoeddiadol a cholli un. Chwaraeon nhw 2 gêm fore Sul gan ennill y ddwy gêm a aeth â nhw drwodd i’r rownd gynderfynol. Chwaraeon nhw’n arbennig o dda yn y rownd gyn derfynol gan ddod trwy 6-3 ar ôl gêm gyfartal 2-2 ar yr hanner. Roeddent yn eithriadol yn y rownd derfynol yn erbyn ysgol gref iawn o Loegr, The Blandford School. Buont yn brwydro’n galed gan orffen yn ail. Roedd y merched yn glod i’r ysgol ac roedd ymddygiad yn berffaith. Breuddwyd i fynd â nhw i ffwrdd a chynrychioli’r ysgol am y tro olaf.
Our Year 11 team had an incredibly successful netball tour after their moderation on Thursday. We travelled to Swindon for the Schools PGL tournament. They played 5 games on Saturday winning 4 games convincingly and losing one. They played 2 games on Sunday morning winning both games which took them through to the semi finals. They played amazingly well in the semi final coming through 6-3 after drawing 2-2 at half time. They were exceptional in the final against a very strong school from England, The Blandford School. They battled hard finishing runners up. The girls were a credit to the school and behaviour was impeccable. A dream to take away and represent the school for the final time.
Dyma ein Grwp Eisteddfod rhagorol yn dilyn eu llwyddiant bendigedig yn Eisteddfod Sir Gorllewin Morgannwg dydd Gwener diwethaf. Mi rydym yn falch iawn ohonynt! Ymlaen i Barc Margam!
Here is our outstanding Eisteddfod Group following their brilliant success at the West Glamorgan County Eisteddfod last Friday. We are very proud of their fabulous work and amazing attitudes to learning Welsh. Onto Margam Park for the finals.
Cafodd ein plant gwasanaeth uwchradd gyfle i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Mis y Plentyn Milwrol Ysgol Bae Baglan. Gofynnwyd i’r disgyblion gynhyrchu darn o waith celf sy’n dangos beth mae’n ei olygu iddyn nhw i fod yn blentyn milwrol. Cynhyrchodd y disgyblion waith gwych. 1af: Charlie Price, 2il: Logan Locke, 3ydd: Travis Gwynne-Thomas, 4ydd: Charlie Morris a Ryan Williams. Llongyfarchiadau!
Our secondary school service children had the opportunity to participate in Ysgol Bae Baglan’s Month of the Military child competition. The pupils were asked to produce a piece of art work that shows what it means to them to be a military child. The pupils produced fantastic work. 1st place: Charlie Price, 2nd place: Logan Locke, 3rd place: Travis Gwynne-Thomas, 4th place: Charlie Morris and Ryan Williams. Congratulations!
Rydym yn falch iawn i gefnogi Mis y Plentyn Milwrol yn Ysgol Bae Baglan. Mae llawer o weithgareddau gan gynnwys cystadlaethau celf a chrefft i ddathlu ein plant lluoedd arfog yn digywydd yn yr ysgol y mis hon. Diolch yn fawr i’n Pencampwraig Plant Lluoedd Arfog Mrs Challenger am ei gwaith rhagorol.
We are very proud to support Month of the Military Child in Ysgol Bae Baglan. There are loads of activities, including arts and crafts competitions taking place to celebrate our service children during the month ahead. Sincere thanks to our Armed Forces Children’s Champion Mrs Challenger for her outstanding work.
Diolch i bawb a gyfrannodd at y cyfanswm arian a godwyd ar gyfer ein dewis elusen – Bethel Chapel Trust PT. Llwyddwyd i godi cyfanswm o £200.
Mae Ymddiriedolaeth Capel Bethel yn darparu eitemau babanod ail-law o ansawdd da, dillad o fabis newydd-anedig hyd at 24 mis oed, llaeth, cewynnau, offer, blancedi, basgedi Moses, cadeiriau gwthio, cotiau, bygis a nwyddau ymolchi hanfodol. Rhoddir y rhain am ddim i unrhyw un sy’n cael trafferth yn ein cymuned leol.
Thank you to everyone who contributed to the total money raised for our chosen charity – Bethel Chapel Trust PT. We managed to raise a total of £200.
The Bethel Chapel Trust provide good quality used baby items, clothing from new born to 24 months, milk, nappies, equipment, blankets, Moses baskets, pushchairs, cots, buggies and essential toiletries. These are given free of charge to anyone who is struggling in our local community.
Rydym wrth ein bodd yr wythnos hon wrth groesawu Leanne Walker o Fenter Iaith Castell Nedd Port Talbot i’r ysgol. Mae Leanne yn cyflwyno gwsanaethau ar gyfer blwyddyn 7-11 am fanteision dysgu Cymraeg, yn y gweithle ac yn y gymuned.
We are delighted to welcome Leanne Walker from Menter Iaith Neath Port Talbot to school this week. Leanne is in school delivering assemblies to year 7-11 inclusive on the advantages of learning Welsh, for future careers and socially.
Llongyfarchiadau i’n grwp staff sydd wedi cwblhau’r her 100km personol ym mis Mawrth er mwyn dod at ein giliydd i godi arian i’r elusen Marie Curie. Ymdrech ardderchog gan ein staff, maent wedi gwneud dros 5000km fel grwp ac ar hyn o bryd maent wedi codi £525 ar gyfer yr elsuen. Dyma’r linc i’u tudalen JustGiving os hoffech eu cefnogi nhw.
https://www.justgiving.com/page/ysgolbaebaglan
Huge congratulations to our staff group who have each completed their individual 100km target during March to raise money together in support of the Marie Curie charity. An excellent effort by our staff, in total the group have completed over 5000km and as it stands have raised £525 for the charity. Please click on the link above if you would like to support their fundraising efforts.